Mae Elfyn Llwyd AS, llefarydd Trosedd a Chyfiawnder Plaid Cymru wedi galw am i Gymru gael yr hawl “i reoli ei system gyfiawnder ei hun” a chael carchar i ferched.
Roedd AS Meirionnydd Nantconwy yn croesawu adroddiad elusen Barnado’s ar effaith y mae carcharu rhiant yn ei gael ar blant.
Mae’r elusen yn dweud y gall llywodraethau gwledydd Prydain “wneud mwy” i sicrhau nad yw plant mewn sefyllfa o’r fath yn “parhau’n anweledig.”
Eisoes, mae Elfyn Llwyd wedi gofyn am ddadl wleidyddol “agored ac onest” ynghylch dyfodol y system garchar.
Mae Plaid Cymru’n awyddus i weld llysiau’n gwneud mwy o ddefnydd o ddedfrydau cymunedol er mwyn lleihau effeithiau sefyllfaoedd tebyg ar blant.
“Mwy na 160,000 â rhieni yn y carchar”
“Mae’r sefyllfa hon yn hynod ddigalon. Mae gan fwy na 160,000 o blant ym Mhrydain riant yn y carchar. Y gwir plaen yw bod y sefyllfa’n gylch dieflig – mae canran fawr o’r plant hyn yn mynd ymlaen i droseddu eu hunain,” meddai Elfyn Llwyd.
Roedd hi’n “chwerthinllyd” fod carcharorion o Gymru yn gorfod cael eu carcharu ymhell iawn oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau. Roedd carchardai’n rhy llawn i fod yn effeithiol, meddai, ac roedd angen “mwy o ymchwil i effeithiau’r sefyllfa ar y gymuned”.