Fe fydd penaethiaid y Post Brenhinol ac undeb y postmyn yn cyfarfod yn Llundain heddiw i geisio rhwystro’r streic trwy wledydd Prydain ddiwedd yr wythnos.

At yr un pryd, mae cwmni preifat TNT yn awgrymu eu bod nhw’n barod i gymryd y busnes dosbarthu post, os daw’r cyfle./

Dyw’r Post ac arweinwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, ddim yn swnio’n obeithiol wrth i’r anghydfod fynd yn fwy a mwy chwerw.

Ar un ochr, mae’r Undeb yn bygwth dod ag achos llys yn erbyn y Post Brenhinol ar ôl iddyn nhw gyhoeddi y byddan nhw’n cyflogi 30,000 o weithwyr tros dro. Maen nhw’n dweud bod 85,000 o bobol wedi cynnig am y rheiny.

Mae hynny’n fwy na dwbl y ffigwr arferol yn nhymor y Nadolig ac fe fyddan nhw’n cael eu cyflogi ynghynt. Yn ôl y cwmni, maen nhw hefyd yn agor pum canolfan ddidoli newydd i osgoi effeithiau’r streic.

Ar yr ochr arall, mae’r Post yn cyhuddo’r undebau o wrthod trafod yn iawn. Maen nhw’n honni eu bod wedi cael 80 o gyfarfodydd gyda’r undeb eisoes ond bod Ysgrifennydd Cyffredinol y CWU, Billy Hayes, yn gwrthod trafod.

TNT yn aros

Gyda gweinidogion y Llywodraeth yn rhybuddio bod yr Undeb yn bygwth dyfodol y gwasanaeth i gyd, mae cwmni TNT wedi gwthio’r drws ymhellach.

Fe ddywedodd eu penaethiaid y bydden nhw’n fodlon cymryd y gwaith o ddosbarthu llythyrau – “er y byddai’n sialens galed”.

Maen nhw wedi bod yn arbrofi gyda hynny mewn dinasoedd fel Lerpwl, Manceinion a Glasgow, gan ddefnyddio eu postmyn eu hunain yn eu lifrai oren.

Ar hyn o bryd, mae TNT, sy’n gwmni dosbarthu anferth, yn dibynnu ar y Post Brenhinol i fynd â’r llythyrau a’r parseli at garreg y drws.

Asgwrn y gynnen

Mae’r streiciau’n digwydd tros gynlluniau’r Post Brenhinol i ailwampio’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

Fe fyddai hynny’n golygu newid rhai amodau gwaith ac mae’r undeb yn gwrthwynebu hynny. Mae yna ddadl hefyd tros gyflogau a swyddi.