Mae rheolau newydd llym yn ceisio sathru ar forgeisi anghyfrifol.
Fe gyhoeddoddyr Awdurdod Safonau Ariannol (yr FSA) gyfres o gamau heddiw i’w gwneud hi’n llawer mwy anodd cael morgais a benthyciadau eraill heb ddigon o arian wrth gefn.
Un o’r prif fesurau uw rhoi stop ar gwmnïau sy’n rhoi morgeisi heb wneud yn siŵr faint yw incwm y cwsmer.
Fe fydd yna gyfrifoldeb ar fenthycwyr hefyd i wneud yn siŵr fod gan gwsmeriaid ddigon o fodd i dalu benthyciadau yn ôl.
Ym maes cardiau credyd a benthyciadau erial, fydd gan gwmnïau ddim hawl i godi lefelau credyd cwsmeriaid, heb iddyn nhw ofyn am hynny.
Fe allai cwmnïau ac unigolion gael eu cosbi neu eu gwahardd os byddan nhw’n torri’r rheolau.
Er hynny, fydd yna ddim rheolau penodol i atal morgeisi sy’n uchel iawn o’i gymharu ag incwm y cwsmer. Yr awgrym yw y bydd hynny’n cael ei wylio’n ofalus.
Brown o blaid
Roedd y Prif Weinidog, Gordon Brown, eisoes wedi cefnogi’r camau.
“Dw i’n benderfynol i roi terfyn ar forgeisi anghyfrifol sydd wedi gadael cynifer ohonoch sy’n pryderu am eich cyllidebau teuluol,” meddai yn ei flog ar wefan Rhif 10 Downing Street dros y Sul.
“Dw i’n credu y dylai benthycwyr orfod gymryd camre iawn i djecio’r amgylchiadau cyn cynnig benthyciadau.”