Daeth 24 awr o wrthdaro rhwng protestwyr amgylcheddol a’r heddlu i ben y prynhawn yma, wrth i’r protestwyr olaf adael safle gorsaf bŵer glo yn Swydd Nottingham.

Ymgasglodd dros 1,000 o brotestwyr o gwmpas pwerdy glo Ratcliffe on Soar ddoe, a chafodd 52 ohonyn nhw eu harestio am geisio torri’r ffens o amgylch y safle.

Cafodd pedwar arall o’r protestwyr eu harestio heddiw.

Roedd y brotest wedi ei threfnu gan ymgyrchwyr amgylcheddol sy’n bryderus am effaith llygredd pwerdai glo ar yr hinsawdd.

Dioddef ymosodiadau cŵn yr heddlu

Cafodd rhai protestwyr eu brathu gan gŵn yr heddlu yn ystod y gwrthdaro.
Meddai’r Prif Arolygydd Linda McCarthy o Heddlu Swydd Nottingham:

“Mae adroddiadau wedi bod o rai protestwyr yn dioddef brathiadau cŵn ac anafiadau eraill o ganlyniad i ymdrech benderfynol i dorri ffensys i lawr a mynd i mewn i’r safle.

“Wrth gwrs, mae hyn yn anffodus, ond mae’n gyfuniad o ymddygiad di-hid gan rai o’r protestwyr a ninnau’n gorfod ymateb gyda dull gwahanol o blismona.”

Gwadodd fod defnyddio cŵn a hofrenyddion i warchod y safle dros nos yn ymgais fwriadol i rwystro’r rhai a oedd yn gwersylla yno rhag cysgu.

“Rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cynnal protest heddychlon ond mae’n amlwg fod llawer yn barod i ddefnyddio grym i fynd i mewn i’r safle,” ychwanegodd.

Protest ‘lwyddiannus’

Dywed ymgyrchwyr i’r brotest fod yn “llwyddiant ysgubol”.

Meddai Natasha Blair ar ran Camp for Climate Action, un o’r mudiadau a drefnodd y brotest:

“Rydym wedi cyflawni’r hyn y daethom yma i’w wneud: dangos nad oes dyfodol i lo a bod mudiad cynyddol sy’n barod i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Wrth i drafodaethau’r Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ym mis Rhagfyr nesáu, mae gweithredoedd o anufudd-dod sifil i herio busnesau mawr a llywodraethau sy’n achosi newid trychinebus yn yr hinsawdd yn ennill cefnogaeth.”

Cafodd Ratcliffe-on-Soar ei ddewis fel targed ar ôl pleidlais ar-lein yn dilyn y Gwersyll Hinsawdd a gafodd ei gynnal yn Llundain ym mis Awst.

Llun: Protestwyr yn gadael Ratcliffe-on-Soar y prynhawn yma (David Jones/PA Wire)