Mae’n bosibl y bydd y Post Brenhinol yn wynebu camau cyfreithiol yn erbyn ei benderfyniad i recriwtio 30,000 o weithwyr dros dro mewn cyfnod o anghydfod diwydiannol.
Cyhoeddodd y Post, sy’n wynebu dwy streic genedlaethol yr wythnos yma, y bydd yn cyflogi dwywaith cymaint ag arfer o staff ychwanegol yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Dywedodd arweinydd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU), Billy Hays, y byddai hyn yn gwaethygu’r anghydfod ynghylch swyddi, tâl a gwasanaethau, a galwodd eto am gyfryngwyr o’r tu allan i helpu datrys y sefyllfa.
Yn ôl rhai swyddogion o’r undeb, mae hi’n anghyfreithlon recriwtio staff dros dro yn ystod streic.
“Byddwn yn edrych ar ochr gyfreithiol hyn ac rydym yn galw ar asiantaethau recriwtio i fod yn ymwybodol o’r gyfraith os gofynnir iddyn nhw ddarparu gweithwyr dros dro i’r Post Brenhinol,” meddai un swyddog.
‘Anghredadwy’
Meddai Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB:
“Mae’n anghredadwy fod adran yr Arglwydd Mandelson [yr Ysgrifennydd Busnes] wedi caniatáu i’r Post Brenhinol recriwtio 30,000 o staff asiantaeth i dorri anghydfod diwydiannol cyfreithlon.
“Byddwn yn gofalu na fydd staff asiantaethau cyflogaeth yn cael eu defnyddio i wneud hyn.
“Mae’n rhaid i’r rheini sy’n rhedeg asiantaethau cyflogi wybod y byddan nhw’n agored i ddirwy o £5,000 y person, am bob dydd ac am bob gweithiwr y byddan nhw’n ei gyflenwi i’r Post Brenhinol yn ystod helynt diwydiannol.”
Streiciau
Fe fydd trafodaethau’n digwydd rhwng y ddwy ochr yfory, ond does dim arwydd fod modd rhwystro’r streiciau rhag mynd ymlaen ddydd Iau a dydd Gwener.
Dywed y Post Brenhinol nad bwriad cyflogi’r gweithwyr ychwanegol yw gwneud gwaith y postmyn yn eu lle pan fyddan nhw ar streic, ond sicrhau bod digon o bobl i glirio’r pentyrrau o bost a fydd ar ôl yn sgil y streiciau, yn ogystal â’r cynnydd tymhorol dros gyfnod y Nadolig.
Dywed y rheolwyr fod y recriwtio’n cydymffurfio’n llawn â chyfraith cyflogaeth.
‘Cynnig gwaith dros dro’
Meddai prif weithredwr y Post Brenhinol, Adam Crozier:
“Rydym yn dal i bwyso ar yr undeb i roi’r gorau i’r ymosodiad gwarthus a digyfiawnhad hwn ar gwsmeriaid.
“Bob blwyddyn, mae’r Post Brenhinol yn recriwtio miloedd o staff dros dro fel rhan o’r gwaith o ddosbarthu post y Nadolig. Eleni fe fydd gennym gymaint ddwywaith o bobl ar waith, ac fe fyddan nhw yn eu lle yn llawer cynharach yn yr hydref.
“Rydym wrth ein bodd o allu cynnig gwaith dros dro i gymaint o bobl ar adeg pan fo enillion ychwanegol bob amser yn cael eu croesawu.”