Mae byddin Pacistan wedi lladd 60 o wrthryfelwyr y Taliban yn ystod ei diwrnod llawn cyntaf o ymosod ar eu cadarnle yn Ne Waziristan, yn ôl llefarydd ar ran y fyddin.

Mae pump o filwyr Pacistan wedi cael eu lladd ac 11 wedi cael eu hanafu.

Dywed y fyddin fod eu milwyr wedi sicrhau safleoedd tactegol ac wedi dinistrio safleoedd gynnau sy’n saethu at awyrennau yn ystod y 24 awr diwethaf.

Yr ymosodiad yma ydi’r ymgais fwyaf penderfynol i gael gwared ar drais terfysgwyr sydd wedi bygwth ansefydlogi llywodraeth y wlad. Mae’r Unol Daleithiau wedi annog ymosodiadau yn erbyn y Taliban ym Mhacistan, gan ddweud bod Waziristan ac ardaloedd eraill ar y ffin yn noddfeydd i wrthryfelwyr jihadi sy’n ymosod ar luoedd America yn Afghanistan.

Mae Pacistan yn targedu pencadlys carfan gref o’r Taliban, sef y Tahrik-e-Taliban, yn Ne Waziristan, lle dywedir bod 1,500 o herwfilwyr yn llechu.

Cred y fyddin mai’r garfan hon sy’n gyfrifol am 80% o weithgareddau terfysgol yn y wlad, a nod eu hymosodiad milwrol ar y ddaear ac o’r awyr yw chwalu rhwydwaith y terfysgwyr.

Yn ôl arbenigwyr milwrol, mae tasg anodd yn wynebu’r fyddin gan fod De Waziristan yn ardal fynyddig anodd iawn mynd iddi. Mae’n debyg o fod yn llawer mwy anodd disodli’r Taliban yma nag oedd hi yn nyffryn Swat, a gafodd ei gipio gan y fyddin yn gynharach eleni.

Milwyr byddin Pacistan yn nhref Bannu ar gyrion cadarnle’r Taliban yn nhalaith De Waziristan ddoe ( (AP Photo/Ijaz Muhammad)