Mae’r Prif Weinidog wedi addo gorfodi’r banciau i roi’r gorau i fenthyca “di-hid” wrth i’r corff sy’n gyfrifol am reoleiddio’r diwydiant ariannol baratoi diwygiadau i’r farchnad forgeisio.

Mae disgwyl i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gyflwyno gwaharddiad ar forgeisi ‘hunan-ardystiedig’ – sef rhai nad yw’n ofynnol i’r sawl sy’n benthyg brofi eu hincwm.

Ar y llaw arall, nid yw’n debygol o osod cyfyngiadau ar faint y benthyciad morgais – mewn cymhariaeth â gwerth yr eiddo nac mewn cymhariaeth ag incwm – y gall cymdeithas adeiladu neu fanc ei gynnig i ddarpar brynwyr.

Dywedodd cadeirydd yr FSA, yr Arglwydd Turner, ym mis Mawrth fod y cynnydd cyflym mewn benthyciadau morgais ym Mhrydain yn ffactor allweddol yn yr argyfwng ariannol presennol.

Dywed y Prif Weinidog y byddai “rheolau llawer tynnach” yn amddiffyn pleidleiswyr.
“Dw i’n benderfynol o roi diwedd ar yr arferion bancio anghyfrifol sydd wedi gadael cymaint ohonoch mewn pryder,” meddai yn ei ddarllediad diweddaraf ar y wefan Stryd Downing.

“Credaf y dylai’r rhai sy’n rhoi benthyg gael eu gorfodi i gynnal gwiriadau priodol ar incwm cyn cytuno ar fenthyciad i brynu tŷ.

“Ac mae angen rheolau llymach i sicrhau nad yw morgeisi uchel mewn cymhariaeth â gwerth yr eiddo, neu mewn cymhariaeth ag incwm, ond yn cael eu cynnig pan fo’r benthyciwr wedi gwirio’n fanwl er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu talu’r ad-daliadau.”

Gwrthwynebiad

Mae’r awgrym y gallai’r FSA ddechrau rheoleiddio morgeisiau wedi ennyn gwrthwynebiad chwyrn gan y diwydiant.

Meddai Robert Sinclair, cyfarwyddwr Cymdeithas y Cyfryngwyr Morgeisi: “Galw a diffyg cyflenwad sy’n effeithio ar brisiau tai ym Mhrydain, ac nid benthyca llac.

“Dydyn ni ddim yn credu y bydd rheoleiddio cynhyrchion morgeisi’n cael yr effaith a ddeisyfir. Mewn gwrionedd, fe fyddan nhw’n cyfyngu’r ddiangen ar gwsmeriaid.”