Wrth i weithwyr post baratoi ar gyfer dwy streic undydd yr wythnos nesa’, mae’r Post Brenhinol yn gwadu bwriad i roi’r gorau i gydnabod eu hundeb.

Mae’r cwmni’n gwadu fod neb o’r penaethiaid yn gwybod dim am ddogfen sy’n awgrymu bwrw ymlaen gyda thrawsnewid y gwasanaeth post, heb ystyried barn Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu.

“Does yr un aelod o’r Bwrdd na’r uwch reolwyr wedi gweld y ddogfen yma nac yn gwybod amdani,” meddai llefarydd.

Roedd y ddogfen wedi cael ei dangos ar y rhaglen deledu, Newsnight, neithiwr ac, yn ôl yr undeb, mae’n ymddangos ei body n ddogfen go iawn.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Billy Hayes, mae’n “achos pryder” ac yn dangos nad oes gan y cwmni unrhyw fwriad i chwilio am gyfaddawd.

Streiciau

A nhwthau ar fin dechrau cyfres o streiciau trwy wledydd Prydain, mae’r undeb yn dweud eu bod yn fodlon mynd at y corff trafod Acas.

Fe fydd y streic genedlaethol gynta’ yn digwydd ddydd Iau nesa’, ymhlith gweithwyr sortio’r post. Ddydd Gwener, fe fydd staff dosbarthu a chasglu ar streic.

Mae penaethiaid busnes a gweinidogion llywodraeth wedi condemnio’r gweithredu sydd tros gadw amodau gwaith ac yn erbyn rhai o’r newidiadau sy’n cael eu cynnig gan y Post Brenhinol.

Yn ôl y Gweinidog Busnes, Peter Mandelson, mae’r bwriad i streicio fel hunan laddiad ac mae busnesau’n rhybuddio y bydd cwmnïau’n troi at gystadleuwyr y Post.

Llun dan drwydded GNU