Fe fydd y Gweinidog Amgylchedd yn bwrw ymlaen gyda’i bwriad i godi tâl am fagiau plastig mewn siopau yng Nghymru.
Ar ôl derbyn adroddiad am brofiad gwledydd eraill, mae Jane Davidson yn dweud bod “rheswm a thystiolaeth” yn cefnogi’r syniad.
Y bwriad yw cael deddf newydd i orfodi siopau i godi rhwng 5c a 15c am bob bag siopa plastig un-tro gan ddilyn esiampl Iwerddon.
Yno, meddai’r adroddiad, mae defnydd o fagiau plastig wedi cwympo o tua 90% ac fe fu gostyngiad mawr hefyd mewn siopau fel M&S ac Ikea sydd eisoes wedi dechrau codi tâl amdanyn nhw.
Siopwyr yn gwrthwynebu
Yr amcangyfri’ yw bod tua 320 miliwn o fagiau plastig un-tro’n cael eu defnyddio yng Nghymru bob blwyddyn – 160 miliwn yn llai na’r llynedd.
Yn ôl corff siopwyr Prydain – y British Retail Consortium – mae defnydd o fagiau yng Nghymru wedi haneru o fewn tair blynedd.
Mae’r Consortiwm yn gwrthwynebu’r bwriad i godi tâl am fagiau gan ddweud mai “addysg ac adnoddau” yw’r atebion gorau.
Mae gostyngiad y blynyddoedd diwetha’ yn dangos, medden nhw, bod modd cael effaith drawiadol heb ddeddf newydd.
Ond dyw Jane Davidson ddim am ildio: “Pwrpas hyn ydi newid ymddygiad defnyddwyr er lles tymor hir yr amgylchedd,” meddai. “Yn syml, mae’r dystiolaeth yn dangos fod codi tâl yn gweithio.”