Mae’n debygol y bydd rhaid i rai gweithwyr “dalu’r pris” er mwyn achub ffatri rhannau ceir Bosch ym Meisgyn ger Pontyclun.

Dyna farn swyddog o undeb Unite ar ôl clywed ddoe y gallai 900 o weithwyr golli eu swyddi os bydd y ffatri’n cau oherwydd cwymp sylweddol mewn gwerthiant.

Roedd gwerthiant wedi syrthio 45% y llynedd ac mae Bosch yn disgwyl cwymp o 65% eleni. Fe fydd y cwmni hefyd yn gwneud ei golled cynta’ eleni ers mwy na 60 mlynedd.

Yn ôl swyddog rhanbarthol undeb Unite, David Lewis, efallai y bydd angen derbyn diswyddiadau er mwyn i’r cwmni allu “symud ymlaen”.

‘Dim syndod’

Dywedodd nad oedd yn beio’r cwmni am y trafferthion ac nad oedd y newyddion yn syndod yn sgil y dirwasgiad.

Dywedodd fod y rheolwyr a’r cwmni yn “dda”, ond bod y ffigyrau yn “arbennig o wael”.

Mae’r cwmni’n ymgynghori ynglŷn â dau syniad – cau’r ffatri’n llwyr yn 2011 neu golli 300 o swyddi y flwyddyn nesa’.

Dau ddewis

Mae’r cwmni’n ystyried dau ddewis – diswyddo 300 o weithwyr y flwyddyn nesa’ neu gau’r ffatri’n llwyr yn 2011. Mae cyfnod o 90 diwrnod o drafod wedi dechrau gyda’r gweithwyr.

Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg, John Smith, wedi annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth alle’n nhw i achub y ffatri.

Dywedodd ei fod yntau wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, i ofyn am sicrhad ganddyn nhw eu bod yn atgyfnerthu eu hymdrechion i sicrhau dyfodol y safle.

Galwodd hefyd ar y Llywodraeth i roi pob cefnogaeth i weithwyr a fyddai’n colli eu swyddi i ganfod gwaith newydd yn yr ardal.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud fod y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn trefnu cyfarfod gyda Llywydd adrannol y cwmni ac uwch swyddogion eraill.

Prawf mawr

Mae’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi dweud fod y sefyllfa yn brawf mawr ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru.

Hefyd yn ôl y Ceidwadwr Andrew R. T. Davies AC, mae’r ffatri yn newydd ac mewn safle ardderchog ac fe ddylai’r Llywodraeth allu perswadio Bosch i aros neu ddenu perchennog newydd.

Doedd y cyhoeddiad ddim yn annisgwyl, yn ôl un arall Ceidwadwr arall, Alun Cairns:
“Hyd yn oed mor hwyr â hyn” meddai, “mae’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad weithio gyda Bosch i geisio denu buddsoddiad ac ehangu sylfaen cynnyrch y ffatri, gan amddiffyn sgiliau a swyddi ymhlith y gweithlu lleol.”

Mae’r ffatri’n gwneud eiliaduron – alternators – i geir drud.