Mae disgwyl y bydd arweinwyr 120,000 o weithwyr y post yn pennu dyddiadau heddiw ar gyfer streiciau a fydd yn tarfu ar wasanaethau ledled Prydain.
Bydd aelodau’r Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu’n cyfarfod i drafod pa bryd i alw ar eu haelodau i beidio gweithio, ar ôl pleidlais ysgubol o blaid gweithredu diwydiannol mewn anghydfod chwerw ynghylch swyddi, tâl a gwasanaethau.
Bydd yn rhaid i’r undeb roi saith diwrnod o rybudd o streic, felly gallai’r gyntaf ddigwydd ar 19 Hydref.
Bydd yr undeb yn penderfynu a ydyn nhw am alw pawb o’r gweithwyr allan ar unwaith neu ddefnyddio tacteg o gael gwahanol weithwyr ar streic ar wahanol ddyddiau.
Mae’r undeb yn mynnu bod y Post Brenhinol yn gorfodi newidiadau ar weithwyr y post, gan dorri swyddi a thâl ac arwain at ddirywiad yn y gwasanaeth.
Dadl y Post yw mai’r cyfan y maen nhw’n ei wneud yw gweithredu rhaglen foderneiddio yr oedd yr undebau wedi cytuno iddi ddwy flynedd yn ôl.
Mae grwpiau busnes wedi rhybuddio y bydd streic genedlaethol yn effeithio’n ddrwg ar gwmnïau sy’n ceisio dygymod â’r dirwasgiad.
Cafodd yr undeb ei gondemnio gan y llywodraeth hefyd.
Meddai’r Gweinidog Busnes Pat McFadden:
“Mae’r streiciau yma’n gwneud niwed mawr. Mae pobl a busnesau’n dibynnu ar y post, a’r unig ganlyniad i’r streiciau yma yw y bydd pobl yn cael hyd i ddewisiadau eraill.
“Felly pan fydd yr anghydfod yma ar ben, bydd llai o ddeunydd yn cael ei bostio. Ni fydd hyn er budd y Post Brenhinol na’i gwsmeriaid.”
Llun: Kirsty Wigglesworth/PA Wire