Fe lwyddodd y Gweilch i fynd â dau bwynt o artre’r Leicester Tigers – ond roedden nhw’n siomedig iawn gyda hynny.
Ar un adeg, roedd y Cymry ar y blaen o 26 – 8 cyn i’r Saeson frwydro’n ôl i 32 – 32 ar y diwedd.
Dim ond pedwar munud oedd ar ôl pan lwyddodd Caerlŷr i gael cais a throsiad i ddod â’r gêm yn gyfartal.
Fe ddywedodd capten y Gweilch, Ryan Jones, bod eu hymateb yn gymysgedd o “bleser a siom” – siom o fethu ag ennill ond pleser o gael dau bwynt o le mor anodd â Chaerlŷr.
“Fe wnaethon ni ildio gormod o bwyntiau rhad,” meddai, “a wnaeth rhannau o’n gêm ni ddim gweithio cystal ag y bydden ni wedi dymuno.”
Biggar
Y Teigrod oedd wedi mynd ar y blaen gyda chais cynnar a chic gosb ond fe drawodd y Gweilch yn ôl dan arweiniad eu maswr ifanc, Dan Biggar.
Roedd yna gais i’r asgellwr Shane Williams a chiciau cosb a gôl adlam i Biggar cyn i’r asgellwr arall, Tommy Bowe, redeg o hanner ffordd am ail gais.
Roedd y Gweilch ar y blaen o 26-15 ar hanner amser.
Llun: Ryan Jones (Gwifren PA)