Mae’n ymddangos y bydd llawer o Aelodau Seneddol yn gwrthryfela yn erbyn y bwriad i orfodi i rai ohonyn nhw dalu rhai o’u costau yn ôl.
Fe allai un o bwyllgorau mwya’ pwerus Tŷ’r Cyffredin ymyrryd hefyd a rhoi stop ar rai o’r taliadau, yn ôl un o’i aelodau blaenllaw,
Fe fydd ASau yn mynd yn ôl i’r Senedd heddiw a thua’u hanner yn derbyn llythyr gan yr archwilydd annibynnol, Syr Thomas Legg, yn gofyn am arian yn ôl neu am esboniad pellach.
“Annheg”
Ond, yn ôl rhai, fe fyddai’n annheg cosbi’r Aelodau os oedd eu costau yn gywir o dan y rheolau fel yr oedden nhw ar y pryd ac os oedd awdurdodau Tŷ’r Cyffredin wedi eu cymeradwyo.
Yn ôl Syr Stuart Bell, un o aelodau Pwyllgor Amcangyfrifon Tŷ’r Cyffredin, fe allai’r pwyllgor ymyrryd ac atal y cosbau os oedden nhw’n teimlo eu body n “annheg”.
“Fe fydd gan ASau lythyr yn eu poced gan Syr Thomas Legg yn dweud y byddai ei adolygiad yn cael ei gynnal yn ôl y rheolau oedd mewn grym ar y pryd a’r safonau oedd yn berthnasol ar y pryd tros y pum mlynedd diwetha’.”
Gorfodi i dalu
Ar y llaw arall, mae cyn bennaeth y Pwyllgor Safonau Bywyd Cyhoeddus wedi rhybuddio y byddai’r aelodau yn gwneud camgymeriad anferth pe baen nhw’n gwrthwynebu penderfyniadau Syr Thomas Legg.
Fe ddylen nhw gael eu gorfodi i dalu, meddai Syr Alistair Graham wrth Radio Wales – hyd yn oed pe bai raid ei dynnu’n orfodol o’u tâl wrth iddyn nhw adael Tŷ’r Cyffredin.
Llun: Syr Thomas Legg (Gwifren PA)