Fe fu farw’r newyddiadurwr Patrick Hannan yn 68 oed ar ôl deugain mlynedd o gofnodi newidiadau gwleidyddol yng Nghymru.

Roedd hefyd yn enwog am ei wybodaeth anferth a’i ffraethineb ac roedd yn un o’r ddau yn nhîm buddugol Cymru yn y gystadleuaeth radio Round Britain Quiz.

Am flynyddoedd roedd wedi cyflwyno prif raglen newyddion Radio Wales yn ogystal â rhaglenni fel Something Else a Called to Order oedd yn dangos ei graffter a’i gyflymder meddwl.

Roedd hefyd wedi sgrifennu pum llyfr, yn benna’ am wleidyddiaeth Cymru, gan gynnwys un am hanes y streic lo fawr yn yr 1980au.

“Trawiadol o wybodus”

“Mae’r BBC wedi colli un o newyddiadurwyr mwya’ miniog, gwreiddiol ac awdurdodol ei genhedlaeth,” meddai Clare Hudson, pennaeth rhaglenni Saesneg BBC Cymru.

Yn ôl rheolwr Radio 4, Mark Damazer, roedd Patrick Hannan yn drawiadol o wybodus a chlyfar ond hefyd yn ffraeth ac yn wylaidd.

Ym marn y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, roedd wedi bod yn llysgennad ardderchog i Gymru.

Cwm Cynon

Roedd Patrick Hannan wedi ei eni yng Nghwm Cynon, yn fab i feddyg a ddaeth i Gymru o Iwerddon, ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bontfaen a’r brifysgol yn Aberystwyth.

Roedd wedi dechrau ei yrfa gyda’r Western Mail, cyn ymuno e2 BBC Cymru yn 1970.

Roedd yn briod gyda rheolwr BBC Cymru Menna Richards ac roedd ganddo dri o blant o’i briodas gynta’

Llun: BBC