Mae’r papurau’n darogan y bydd streic bost yn taro ar draws gwledydd Prydain yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Fe fydd canlyniadau pleidlais o weithwyr y post yn cael eu cyhoeddi y prynhawn yma a’r disgwyl yw bod mwyafrif clir o blaid streic genedlaethol.

Yn ôl papur y Daily Telegraph, roedd polau ymhlith y 121,000 o bostmyn, didolwyr a gweithwyr swyddfa yn awgrymu bod hyd at 70% o blaid gweithredu.

Er bod trafodaethau’n parhau rhwng Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, a’r Post Brenhinol, mae’n ymddangos bod y ddwy ochr hefyd yn disgwyl streic.

Os bydd y canlyniadau heddiw yn cefnogi hynny, fe fydd rhaid i’r undeb weithredu o fewn 28 diwrnod, gan roi saith diwrnod o rybudd i’r cyflogwyr.

Nadolig

Fe fyddai streic yn effeithio’n arbennig ar fusnesau ar-lein a fydd eisiau dosbarthu anrhegion Nadolig sy’n cael eu prynu tros y We.

Eisoes, yn ôl papur y Guardian heddiw, mae’r cwmni wedi colli cytundeb gwerth £25 miliwn gyda’r busnes ar-lein mwya’ o’r cyfan, Amazon. Mae Amazon yn gwadu hynny.

Cyflog ac amodau gwaith yw achos yr anghydfod sydd eisoes wedi achosi cyfres o streiciau lleol yn ystod y 15 wythnos diwetha’. Fe fydd degau o’r mân streiciau hynny’n digwydd heddiw a fory, yn benna’ mewn canolfannau yn ninasoedd Lloegr.