Mae’r corff sy’n gyfrifol am adroddiadau ar berfformiad cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi derbyn adroddiad gwael am ei ddulliau rheoli ei hun.

Yn ôl Adolygiad o waith Swyddfa Archwilio Cymru, mae yna ddiffyg arweiniad yno, tensiwn a chenfigen rhwng uwch swyddogion a diffyg eglurder.

Er hynny, mae’r adroddiad gan banel o arbenigwyr rhyngwladol o’r byd archwilio yn canmol safon adroddiadau’r swyddfa ar gyrff eraill.

Eisoes, mae gwleidyddion wedi mynegi pryder y gallai’r problemau effeithio ar safon yr adroddiadau hynny.

“Mae’n fater pryderus iawn y gallai’r perthnasau mewnol afiach gael effaith ar waith y Swyddfa Archwilio,” meddai’r Democrat Rhyddfrydol, Mike German.

“Mae’n rhaid cymryd camau brys i gywiro’r problemau. Mae gwerth am arian yn hanfodol yn y cyfnod ariannol anodd yma.”

Dim ffydd – undebau

Yn ôl ym mis Mai, fe ddaeth hi’n amlwg bod arolwg gan undebau wedi datgelu anawsterau mawr ymhlith staff y Swyddfa.

Roedd 65% yn dweud nad oedd yna arweiniad clir a 70% ddim yn credu y gallai’r penaethiaid wella’r corff.

Ar y pryd, roedd y Swyddfa wedi nodi mai dim ond 165 o’r staff oedd wedi ateb yr arolwg – allan o gyfanswm ar y pryd o 297.

Ymateb yr Archwilydd

“Mae’r adroddiad yn dweud ein bod yn arwain y byd o ran safonau archwilio. Dw i wedi trio cael dull rheoli rhydd ond efallai bod hynny yn symud yn rhy gyflym. Dw i’n derbyn bod angen dull mwy uniongyrchol. Mae gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru broblemau mewn rhyw faes neu’i gilydd.” – Jeremy Coleman, yr Archwilydd Cyffredinol wrth Radio Wales.

Yr Adolygiad

Y Swyddfa Archwilio ei hun oedd wedi trefnu’r Adolygiad, gyda phanel yn cynnwys archwilwyr o Iwerddon, yr Alban a’r Iseldiroedd a Syr Alistair Graham, cyn-gadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yng ngwledydd Prydain.

Roedd yr Archwilydd Cenedlaethol, Jeremy Coleman, wedi dweud ar y pryd bod rhaid i bob corff cyhoeddus aeddfed gael ei adolygu.

Llun: Jeremy Coleman, yr Archwilydd Cyffredinol