Mae’r ail ferch a oedd wedi honni iddi gael ei threisio ym Mhrifysgol Morgannwg wedi tynnu ei honiadau’n ôl.
Yn ôl swyddogion o Heddlu De Cymru, dydyn nhw ddim bellach yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd bod heddwas wedi cael ei benodi i fod yn gyswllt i’r fyfyrwraig 20 oed, er mwyn “cynnig cefnogaeth iddi ynglŷn â materion eraill”.
Roedd hi wedi dweud wrth heddlu a oedd ar batrôl ar dir y brifysgol ei bod hi wedi cael ei threisio’r un noson ag y cafodd myfyrwraig arall 18 oed ei threisio.
Roedd hi wedi honni bod dau ddyn wedi ymosod arni ac roedd hynny wedi cynyddu’r pryder ar y campws.
Yr achos cyntaf
Roedd heddlu wedi cael eu galw i’r brifysgol yn gynnar fore Sadwrn 26 Medi, ar ôl i ddyn ymosod ar fyfyrwraig 18 oed.
Doedd hi ddim yn byw ar y campws, ac fe ymosodwyd arni gan ddyn â chyllell yn ystafell ei ffrind.
Mae’r heddlu yn chwilio am ddyn sydd tua chwe throedfedd, yn gry’ o gorff ac yn gwisgo menig a thop tywyll gyda hwd.
Diogelwch
Ers y digwyddiad, mae prifathro’r Brifysgol wedi ceisio rhoi sicrwydd i’r myfyrwyr ac wedi galw ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad fynd at yr heddlu.
“Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles ein staff a’n myfyrwyr,” meddai’r Is-ganghellor, David Halton. “Rydyn ni wedi cynyddu’r trefniadau diogelwch ar y campws ac mae gyda ni wasanaeth cwnsela arbennig.”
Mae Heddlu De Cymru yn dweud fod ganddyn nhw swyddogion yn cerdded o amgylch y campws bedair awr ar hugain y dydd.
Llinell gymorth y brifysgol ar gyfer myfyrwyr a rhieni yw: 01443 654 660.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu yn Aberpennar ar y rhif: 01443 743 678, neu drwy alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar y rhif: 0800 555 111.
Llun: Neuaddau ym Mhrifysgol Morgannwg (o wefan y Brifysgol)