Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud heddiw eu bod nhw am ddod ag achos llys yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol am wenwyno un o afonydd mwya’ Lloegr.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd y gwenwyn cyanide a charthffosiaeth heb ei drin wedi llifo i mewn i afon Trent, gan ladd miloedd o bysgod.

Mae arbenigwyr wedi rhybuddio fod y llygredd hefyd yn lladd bywyd gwyllt, a bod yna beryg y gallai’r gwenwyn dreiddio i’r tir.

Roedd y cyanide di-liw wedi cael ei arllwys yn anghyfreithlon i’r afon ac i mewn i waith trin carthffosiaeth rhwng Stoke-on-Trent a Yoxall.

Yno, fe adweithiodd gydag organebau sy’n cael eu defnyddio i drin budreddi gan achosi bod carthffosiaeth lled-amrwd wedi llifo i’r afon.

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd, mae swyddogion wedi bod wrthi’n pwmpio ocsigen i mewn i’r afon ac wedi llwyddo i leihau’r llygredd yn sylweddol.

Dim trochi

Dyw’r cyflenwad dŵr yfed ddim wedi cael ei effeithio, medden nhw, ond mae’r asiantaeth yn rhybuddio na ddylai pobol na’u hanifeiliaid drochi yn yr afon.

Does dim adroddiadau eto ynglŷn â phwy lygrodd yr afon. Mae llefarydd ar ran cwmni dŵr Hafren Trent, y cwmni sy’n gyfrifol am y gwaith trin carthffosiaeth, yn dweud nad nhw oedd yn gyfrifol.

Gallai’r sawl oedd yn gyfrifol wynebu dirwyon enfawr. Derbyniodd y cwmni cemegol Sevalco ddirwy o £240,000 yn 2004 am ollwng cyanide yn fwriadol i Fôr Hafren.