Mae’n debyg y bydd staff British Airways yn mynd ar streic dros y Nadolig ar ôl i’r cwmni ddweud na fyddan nhw’n cael codiad cyflog ac y bydd 1,700 o swyddi yn mynd.

Fe gyhoeddodd BA eu cynlluniau ddoe fel rhan o raglen i dorri costau, wrth i benaethiaid y cwmni rybuddio bod rhaid gweithredu neu wynebu colledion enfawr.

Fe fydd tua 1,700 o swyddi yn cael eu colli, ond mae swyddogion undebau llafur wedi rhybuddio’r cwmni awyrennau eu bod nhw’n barod i ymladd y penderfyniad.

“Streic yn nes”

“Mae’n anochel bod y penderfyniad yma’n dod â’r posibilrwydd o streic yn nes,” meddai llefarydd ar ran yr undebau. “Fyddwn ni ddim yn gadael iddyn nhw wthio llai o staff i wneud mwy o waith ar gyflog is.”

Mae BA wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu cadw cyflogau fel y maen nhw am ddwy flynedd ond y bydd trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur.

Rhybuddiodd y cwmni bod rhaid gwneud toriadau neu fe fyddai BA yn parhau i golli arian bob mis. “Mae’n angenrheidiol ein bod yn gweithredu mewn modd mwy effeithlon er mwyn sicrhau ein dyfodol yn y tymor hir”, meddai llefarydd.