Mae cyngor tref wedi beirniadu Heddlu Dyfed Powys am geisio gwylio galarwyr yn angladd cenedlaetholwr adnabyddus.
Yn awr, mae llythyr yn ceisio esbonio’r digwyddiad wedi gwneud pethau’n waeth trwy ddweud mai eisio gwylio traffig yr oedden nhw – er bod y camerâu ymhell o’r ffordd fawr.
Roedd yr achos yn “warthus”, meddai clerc y cyngor, sy’n bwriadu protestio wrth yr heddlu am yr ail waith.
Ceisio ffilmio gorymdaith
Yn ôl Clerc Cyngor Machynlleth, John Parsons, roedd yr heddlu wedi gofyn am newid cyfeiriad camerâu teledu cylch cyfyng y cyngor er mwyn ceisio ffilmio gorymdaith angladd y gwladgarwr adnabyddus, Glyn Rowlands.
Fe fu farw yn 71 oed ar 22 Awst eleni ac roedd cannoedd wedi dod i’r angladd – yn bobol leol a ffrindiau o bell.
Ar ôl gwasanaeth yn y dre’, roedd y galarwyr am gasglu o amgylch cofgolofn i Owain Glyndŵr ym Mhlas Machynlleth, sy’n eiddo i’r Cyngor.
Ar y diwrnod, fe aeth un o swyddogion cefnogol yr heddlu yno a gofyn am gyfeirio’r camerâu at y gofgolofn. Fe wrthododd rheolwr y Plas a chyfeirio’r mater at y Clerc.
“Amharchus”
Roedd y cais yn “amharchus”, meddai John Parsons – ef hefyd oedd y cyfreithiwr a amddiffynnodd y cenedlaetholwr o Gorris pan gafwyd ef yn ddieuog yn achos yr FWA adeg yr Arwisgiad yn 1969.
“Mae’r peth yn warthus,” meddai wedyn. “Mae yna 40 mlynedd ers hynny ac roedd Glyn yn ddieuog beth bynnag. Mae’r Cyngor Tref yn teimlo’n gryf iawn am hyn.
“Fi oedd un o’r bobol oedd yn talu teyrnged i Glyn yn y capel. Roedd yn caru Cymru, yn caru ei iaith ac yn caru Bro Ddyfi. Roedd o’n uchel ei barch yn y dre’ a welais i erioed gladdedigaeth debyg.”
Gwneud pethau’n waeth
Ddoe, fe dderbyniodd John Parsons lythyr gan arolygydd heddlu yn dweud mai eu bwriad nhw oedd cadw llygad ar y traffig ym Machynlleth oherwydd maint yr angladd.
“Fyddai yna ddim traffig yn y Plas,” meddai John Parsons. “Mae’r esboniad yma’n gwneud pethau’n waeth. Mi fydda’ i’n rhoi’r mater o flaen y Cyngor unwaith eto a dw i’n siŵr y byddan nhw’n ymateb yn gryf.”
Mae cynghorydd sir wedi cefnogi safiad y Cyngor Tref hefyd. “Ro’n i’n cefnogi’r Clerc,” meddai Michael Williams. “Roedd Glyn yn Gymro i’r carn ac yn dangos ei gred i bawb weld – roedd yna barch mawr iawn iddo fo.”
Llun: Glyn Rowlands – o wefan The Welsh Patriot