Fe fydd cwmni dur Corus yn derbyn mwy na £1 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad i helpu hyfforddi gweithwyr.

Dyma’r grant mwya’ eto o dan gynllun ProAct y Llywodraeth sydd wedi ei anelu at helpu gweithwyr mewn cwmnïau sy’n ystyried cael gwared ar swyddi neu weithio oriau byr.

Er nad oes diswyddiadau newydd ar y gorwel gan Corus, fe fydd 584 o weithwyr yn Llanwern a Phort Talbot  yn cael hyfforddiant, a’r Llywodraeth yn talu £2,000 i’r cwmni am bob un.

Mae rhai arbenigwyr economaidd eisoes wedi beirniadu’r ffaith fod cymaint o arian yn mynd i gwmni mawr rhyngwladol.

Gwella sgiliau

Nod ProAct yw sicrhau fod gweithwyr yn gwella eu sgiliau – rhag ofn y bydd rhaid iddyn nhw chwilio am waith arall neu er mwyn helpu eu cwmnïau pan fydd amgylchiadau’n gwella.

“Mae’n hanfodol i weithlu Cymru fod eu cwmnïau yn gwneud mwy na goroesi’r dirwasgiad presennol,” meddai’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan. “Mae eisie iddyn nhw fod yn hollol barod pan fydd yr economi’n adfywio.”

Yn ôl y Llywodraeth, mae 129 o gwmnïau wedi cael eu helpu gan ProAct, a hynny’n cynnwys 7,000 o weithwyr a gwerth £17.3 miliwn o grantiau.