Wyth mlynedd ers dechrau’r rhyfel yn Afghanistan, mae mwy o bobol yn ei erbyn ac mae’r Prif Weinidog ynghanol dadl tros nifer y milwyr yno.

Yn ôl pôl piniwn gan y BBC, mae agweddau at y rhyfel wedi caledu dros y tair blynedd diwetha’, gyda mwy yn gwrthwynebu’r rhyfel a mwy yn ei gefnogi hefyd.

  • Mae 56% yn erbyn – 3% yn fwy nag yn 2006.
  • Mae 37% o blaid – 6% yn fwy.
  • Dim ond 6% sy’n ansicr ac 1% yn gwrthod ateb.

Mae’r gwrthwynebiad i’r rhyfel yn uwch ymhlith pobol tros 65 oed – 60% – ac ymhlith merched (65%).

Mae’r gefnogaeth i’r rhyfel ar ei ucha’ ymhlith pobol ifanc rhwng 18 a 24 – 53%.

“Hwb wrthod rhagor o filwyr”

Mae’r Llywodraeth yn gwadu honiadau bod y Prif Weinidog yn gwrthod cynyddu nifer y milwyr yn Afghanistan.

Roedd cyn-bennaeth y fyddin yno, Syr Richard Dannatt, yn dweud ei fod wedi gwneud cais am 2,000 o filwyr ychwanegol ddechrau’r flwyddyn ond bod Gordon Brown wedi gwrthod.

Yn ôl Downing Street, mae nifer y milwyr wedi codi o 7,800 i 9,000 ers 2007 ac mae’r Llywodraeth yn dweud fod ystyriaethau eraill yn bwysig cyn addo anfon rhagor – a oes digon o offer iddyn nhw ac a yw gwledydd eraill yn tynnu eu pwysau?

Fe allai’r Prif Weinidog ddod dan ragor o bwysau os oes prawf o gais Syr Richard am ragor o filwyr. Roedd Gordon Brown wedi dweud yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf bod y fyddin yn fodlon ar eu rhifau.

Fe allai hynny fod yn achos o gamarwain y Senedd, meddai llefarydd amddiffyn y Ceidwadwyr, Liam Fox.

Milwr arall yn marw

Fe gododd nifer y marwolaethau Prydeinig yn Afghanistan i 220, wrth i filwr o’r Greenadier Guards gael ei ladd yn nhalaith Helmand.