Fe allai chwech o’r streicwyr newyn yng Ngogledd Iwerddon yn 1981 fod wedi eu hachub pe bai arweinwyr yr IRA wedi derbyn cyfaddawd gan y Llywodraeth.

Mae’r honiad yn cael ei wneud gan y dyn oedd yn brif weinidog Gweriniaeth Iwerddon ar y pryd, Garret Fitzgerald. Mae’n dweud fod gan Lywodraeth y Weriniaeth ‘dwrch daear’ y tu mewn i garchar y Maze lle’r oedd y brotest yn digwydd.

Mewn cyfweliad papur newydd heddiw, mae’n cadarnhau honiad fod penaethiaid yr IRA wedi gwrthod gadael i’r carcharorion roi’r gorau i’w protest.

Roedd pedwar eisoes wedi marw – gan gynnwys yr enwoca’ ohonyn nhw, Bobby Sands – ac, o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, fe fu farw’r chwech arall hefyd.

“Rhesymau gwleidyddol”

Fe gefnogodd Garret Fitzgerald y fersiwn o’r stori sydd mewn llyfr o’r enw Blanketmen gan un o’r cyn-garcharorion, Richard O’Rave. Mae hwnnw’n dweud bod arweinwyr yr IRA wedi gwrthod cyfaddawd am resymau gwleidyddol.

Mae marwolaethau’r streic newydd yn cael eu hystyried ymhlith digwyddiadau mwya’ allweddol yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon yn nhraean ola’r ganrif ddiwetha’.

Roedd degau o garcharorion yr IRA yn y Maze wedi bod yn protestio yn erbyn colli breintiau – i ddechrau trwy wisgo dim ond blancedi a baeddu eu celloedd ac wedyn trwy wrthod bwyta.

Mae dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness o Sinn Fein, wedi cydnabod ei fod ef yn rhan o’r trafodaethau ond nad oedd yr un cynnig derbyniol wedi ei wneud.

Llun: Murlun i gofio Bobby Sands