Mae’r cyfarwyddwr ffilm, Roman Polanski, wedi cael ei arestio yn y Swistir am drosedd a gyflawnodd 31 o flynyddoedd yn ôl yn yr Unol Daleithiau.

Fe allai wynebu blynyddoedd o garchar os bydd yn cael ei anfon yn ôl i America i wynebu cosb am gael rhyw gyda merch o dan oed yn ôl yn 1977. Fe fydd ei gyfreithwyr yn ceisio ymladd yr ymgais i’w estraddodi.

Mae yna brotestio wedi bod oherwydd natur yr arestio – fe ddigwyddodd fel yr oedd y cyfarwyddwr 76 oed ar fin derbyn gwobr yng Ngŵyl Ffilmiau Zurich.

Er bod gan Polanski dŷ yn y Swistir ac er ei fod yn ymweld â’r wlad yn gyson, roedd wedi cael llonydd ers blynyddoedd.

Y cefndir

Ar y dechrau, roedd Polanski’n wynebu cyhuddiadau o dreisio ar ôl honiadau ei fod wedi meddwi merch 13 oed ac yna gael rhyw gyda hi yn Los Angeles yn 1977.

Yn 1978, roedd Roman Polanski wedi cytuno i bledio’n euog i drosedd lai difrifol o gael rhyw gyda merch dan oed.

Mae ei gyfreithwyr ef yn honni fod hynny’n rhan o gytundeb i gael dedfryd o gyfnod byr yn y carchar ond fod y barnwr wedi penderfynu torri ei air.

Fe ddihangodd o’r Unol Daleithiau bryd hynny ac mae wedi bod yn byw yn benna’ yn Ffrainc.

Y cysylltiad Cymreig

Un o ffilmiau enwoca’ Roman Polanski yw The Tragedy of Lady Macbeth a oedd wedi ei ffilmio’n benna’ yng ngogledd Cymru.

Er nad oedd hi’n llwyddiant poblogaidd, mae’r ffilm bellach yn cael ei chydnabod yn un bwysig ac yn ymateb i’r digwyddiadau ofnadwy pan gafodd gwraig Polanski, Sharon Tate, ei llofruddio gan ddyn o’r enw Charles Manson.