Fe fydd y Canghellor yn cyhoeddi sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i gyfyngu ar daliadau bonws i fancwyr.

Ond fe fydd araith Alistair Darling yn cael eu bwrw i’r cysgod gan ei sylwadau ef ei hun mewn papur newydd ddoe a gan gwestiynau personol y BBC i’r Prif Weinidog.

Fe ymatebodd Gordon Brown a’i gefnogwyr yn ffyrnig i’r ffaith fod yr holwr, Andrew Marr, wedi gofyn iddo’n blwmp ac yn blaen a oedd yn dibynnu ar dabledi presgripsiwn er mwyn dal ati.

“Na” oedd ateb Gordon Brown, sy’n ymwybodol o sïon fod ei iechyd yn diodde’ a’i fod yn colli golwg yn ei lygad.

Yn ddiweddarach, fe fu’r Ysgrifennydd Busnes, Peter Mandelson, yn ymosod ar Andrew Marr am y cwestiwn gan holi beth oedd y sail.

Ceisio taro’n ôl

Neges Gordon Brown a gweddill yr arweinwyr fydd yr angen i daro’n ôl – “Operation Fightback”. Ac mae eisoes wedi ceisio lledu’r ddadl y tu hwnt i’w broblemau ef ei hun ac at syniadau sylfaenol y Blaid Lafur.

“R’yn ni’n credu ei bod hi’n iawn i ymyrryd,” meddai, “i weithredu ac i beidio â cherdded o’r tu arall heibio pan fydd rhywbeth o’i le.

Ddoe roedd Alistair Darling wedi dweud fod arweinwyr y blaid fel petaen nhw wedi colli’r awydd i fyw a bod angen dechrau brwydro.