Mae pedwar swyddog traffig newydd yn dechrau gweithio ar ffordd yr A55 heddiw mewn cynllun peilot am chwe mis.
Fe fydd eu cerbydau, gyda’u marciau du a melyn i’w gweld ar hyd y briffordd ar draws gogledd Cymru, gyda goleuadau coch ac oren i dynnu sylw.
Fe gafodd y cynllun ei gyhoeddi ym mis Mai eleni a’r bwriad yw helpu’r heddlu gyda rheoli traffig – mae gan y swyddogion yr hawl i atal a chyfeirio traffig ac fe fyddan nhw’n cymryd gofal o fân ddigwyddiadau a damweiniau.
Ond fydd ganddyn nhw ddim hawl na phwerau i ymwneud â throseddau fel gyrru’n rhy gyflym.
“Helpu nid erlyn”
Adeg cyhoeddi’r cynllun, fe ddywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd mai’r nod oedd helpu’r cyhoedd nid eu herlyn a cheisio cadw’r ffordd yn glir.
Mae galw mawr am swyddogion tebyg ar draffordd yr M4 ar ôl i Heddlu De Cymru roi’r gorau i’r gwaith arolygu o ddydd i ddydd.
Llun – yr A55 ger Pantasaph (Dot Potter – Trwydded CCA)