Mae hyfforddwr Wrecsam, Dean Saunders, wedi dweud ei fod yn hapus iawn gyda pherfformiad ei chwaraewyr, ar ôl i’r Dreigiau ennill am y tro cyntaf mewn pedair gêm.

Fe wnaeth Wrecsam guro Luton o 3-0 ar y Cae Ras.

Dywedodd Saunders ei fod yn falch i sicrhau’r pwyntiau a bod safon chwarae Wrecsam yn welliant mawr.

“Mae Luton yn dîm anodd iawn i chwarae yn eu herbyn, ac fe wnaeth y chwaraewyr weithio’n galed am y fuddugoliaeth”, meddai’r rheolwr.

Bydd y fuddugoliaeth yn rhyddhad i Dean Saunders, oedd o dan bwysau ar ôl tair gêm heb gôl.

Fe sgoriodd Gareth Taylor gic o’r smotyn i roi Wrecsam ar y blaen wedi chwe munud o’r chwarae.

Wedi ugain munud, fe wnaeth Taylor sgorio eto – ei chweched gôl o’r tymor – i ddyblu mantais y Dreigiau.

Ychwanegodd Mark Jones drydedd gôl i sicrhau buddugoliaeth galonogol iawn i’r tîm cartref.

Mae Wrecsam wedi codi i safle 16 yn y tabl, ond mae ganddyn nhw ddwy gêm yn ychwanegol i chwarae o’i gymharu â nifer o’r timau uwch eu pennau.