Efallai y byddai rhestr o chwaraewyr gwaethaf yn haws… ond mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o gewri’r gêm, yn llythrennol…

Rhif 10: Leigh Richmond Roose

Roedd Leigh Richmond Roose yn gôl-geidwad ecsentrig enillodd 24 cap dros Gymru rhwng 1900-1911, gan ennill Pencampwriaeth Gartref yn 1907. Dechreuodd ei yrfa yng Nghlwb Pêl Droed Aberystwyth a fe’i disgrifiwyd gan yr hanesydd, Thomas Richards, yn yr un cyfnod fel “Yr Ercwlff synfawr hwn”. Cafodd ei gario oddi ar y cae ar ôl ennill y Cwpan Cymreig gyda’r tîm yn 1900. Chwaraeodd dros 12 clwb arall, gan gynnwys Everton ac Aston Villa, gan wisgo crys ‘lwcus’ Aberystwyth heb ei olchi ym mhob gêm. Mae’n debyg mai oherwydd Leigh Richmond Roose y bu’n rhaid iddyn nhw newid y rheolau fel bod y gôl-geidwad yn cael gafael yn y bêl yn y blwch cosbi yn unig – am ei fod o’n rhedeg gymaint allan o’r gôl i ganol cae gyda’r bel yn ei ddwylo. Pan ofynnodd y Daily Mail am enwebiadau ar gyfer XI Y Byd i wynebu planed arall, dewiswyd Leigh Richmond Roose fel gôl-geidwad. Fe gafodd ei ladd yn 1916 ym mrwydr y Somme.

Rhif 9: John Toshack

Er bod John Toshack erbyn hyn yn fwy enwog fel hyfforddwr timau ledled Ewrop, a hyfforddwr cenedlaethol Cymru, roedd yn ymosodwr nerthol dros Lerpwl yn y 70au. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Geardydd, yn 16 oed, cyn ymddangosiad cyntaf Aaron Ramsey 42 mlynedd yn ddiweddarach. Sgoriodd dros 100 gôl iddyn nhw cyn ei fod o’n 20 oed. Wedi pedair mlynedd gyda Chaerdydd symudodd i Lerpwl lle sgoriodd 96 gôl mewn 246 ymddangosiad rhwng 1970 a 1978. Enillodd y tîm y gynghrair dair gwaith, y Cwpan FA yn 1974, a’r cwpan UEFA yn 1973 a 1976. Cafodd 40 cap a sgorio 12 gôl i Gymru.

Rhif 8: Ron Davies

Ron Davies o Dreffynnon oedd un o’r goreuon erioed am benio’r bêl i’r rhwyd. Dywedodd bod y sgil yma i neidio am y bêl wedi ei ddatblygu pan oedd yn chwarae i glwb Chester City, ble’r oedd rhaid iddo ymarfer neidio dros glwydi yn gwisgo hen sgidiau trwm o’r fyddin. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yn chwarae i Southampton – gan chwarae 240 o weithiau dros y clwb a sgorio 134 gôl – er bod Manchester United yn awyddus iawn i’w arwyddo.Fe wnaeth clwb Old Trafford hynny ar ddiwedd ei yrfa bron, a chwaraeodd wyth gem iddyn nhw yn 1974/75. Er iddo ennill 29 o gapiau dros Gymru rhwng 1964 ac 1974, roedd hi’n gyfnod hesb iawn i’r tîm rhyngwladol. Yn anffodus erbyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben roedd Ron Davies wedi penio’i bêl olaf dros Gymru.

Rhif 7: Neville Southall

Enillodd Neville Southall o Landudno 93 cap dros ei wlad ac mae’n cael ei gofio fel un o gol-geidwaid gorau ei genhedlaeth. Ond dechreuodd chwarae pel-droed yn broffesiynol yn gymharol hwyr ar ôl cyfnod fel casglwr sbwriel. Chwaraeodd i glwb Everton 578 o weithiau rhwng 1981 a 1998, gan ennill gwobr Seren y Gêm yn ffeinal y Cwpan FA yn erbyn Manchester United yn 1995. Er iddo ddatgan drwy gydol ei yrfa yr hoffai fynd yn hyfforddwr, ers ei ymddeoliad mae wedi hyfforddi nifer o dimau tu allan i’r gynghrair, heb lawer o lwyddiant .

Rhif 6: Gary Speed

Fel ambell i un arall, mae’n bosib cwestiynu ymroddiad Gary Speed i’r tîm cenedlaethol, ond does dim dadlau ei dalent. Enillodd y dyn o Benarlâg 85 cap i Gymru rhwng 1990 a 2004, yn ail yn unig i Neville Southall, ac ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae 500 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr. Cafodd ei wneud yn gapten ar Gymru, ond mae’r ffaith iddo barhau i chwarae dros Bolton Wanderers a Sheffield United am bedair blynedd arall wedi codi amheuon ymysg rhai cefnogwyr. Bellach mae e’n chwaraewr-hyfforddwr yn Sheffield United ac mae Mark Hughes eisoes wedi ei glustnodi fel hyfforddwr ar Gymru i’r dyfodol.

Rhif 5: Mark Hughes

Fe wnaeth ‘Sparky’, o Riwabon ger Wrecsam, chwarae 72 o weithiau dros Gymru a sgorio 16 gôl rhwng 1984 a 1999. Fe fu Leslie Mark Hughes yn chwarae i glybiau Manchester United, Barcelona, Bayern Munich, ymysg eraill, cyn ymddeol yn 2002. Chwaraeodd ddwy gêm mewn un diwrnod yn 1988, yn gyntaf i Gymru yn erbyn Tsiecoslofacia yn Prague, cyn cael ei gludo i’r Almaen i chwarae dros Bayern y noson honno. Bu’n hyfforddwr ar Gymru rhwng 1999 a 2004, a daeth y tîm yn agos at gyrraedd pencampwriaeth Euro 2004 ar ôl maeddu’r Eidal 2-1 yn y grwpiau, a chwyddodd y dorf i dros 70,000 mewn rhai gemau. Bellach mae’n rheolwr ar glwb mwyaf cyfoethog Prydain – os nad y byd ar hyn o bryd – Manchester City.

Rhif 4: Billy Meredith

William Henry “Billy” Meredith o’r Waun oedd un o’r chwaraewr gorau yn ei ddydd ac un o’r pwysica’ yn hanes pêl-droed Cymru. Yn 1894 penderfynodd Manchester City ddanfon cynrychiolydd i’r Waun i arwyddo Billy Meredith, ond cafodd ei ddychryn gan y trigolion lleol a bu’n rhaid iddo brynu diodydd i gyd-chwarelwyr y seren bêl-droed er mwyn cael siarad gyda fo. Roedd mam Billy Meredith yn erbyn y syniad o arwyddo i glwb a bu’n rhaid iddo deithio yn ôl i weithio yn y chwarel rhwng gemau. Aeth yn ei flaen yn 1906 i chwarae dros Manchester United. Enillodd 48 cap i Gymru rhwng 1985 a 1920, a byddai wedi ennill 71 pe bai ei glwb yn fodlon ei ryddhau yn fwy aml. Fe fu’n chwarae dros Gymru pan enillon nhw eu Pencampwriaeth Gartref gyntaf erioed yn 1907. Yn ôl llygad-dystion y dydd roedd ganddo ‘toothpick’ yn ei geg ym mhob gêm oedd o’n ei chwarae. Yn 1928 ef oedd hyfforddwr tîm byrhoedlog Manchester Central.

Rhif 3: Ryan Giggs

Er ei fod ymysg chwaraewyr gorau’r byd dros ei glwb, Manchester United, ychydig iawn o berfformiadau gwych gafodd Ryan Giggs yng nghrys coch Cymru. Roedd yn gapten ar dîm Hogiau Ysgol Lloegr cyn chwarae dros Gymru. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf, yn 17 oed, i gynrychioli ei wlad pan enillodd ei gap cyntaf yn 1991, ac enillodd 64 cap gan sgorio 12 gôl cyn ymddeol yn 2007. Cafodd ei feirniadu oherwydd polisi Manchster United i beidio â’i ryddhau am gemau cyfeillgar, ond enwyd ef fel capten ar Gymru yn 2004. Dim ond unwaith yn ei yrfa clwb a rhyngwladol gafodd gerdyn coch – mewn gêm dros Gymru yn erbyn Norwy yn 2001. Mae yrfa gyda Manchester United yn parhau.

Rhif 2: Ian Rush

Chwaraeodd Ian Rush o Lanelwy 73 o weithiau dros Gymru gan sgorio 28 o goliau rhwng 1980 a 1996. Methodd y tîm â chymhwyso i chwarae mewn pencampwriaeth fawr yn ystod ei yrfa ond daethon nhw’n agos iawn, gyda Rush yn sgorio gôl i ennill yn erbyn yr Almaen yn ngemau rhagbrofol Ewro 1992. Mae’n fwyaf enwog am ei ddau gyfnod gyda Lerpwl, lle chwaraeodd 469 o weithiau a sgorio 229 gôl. Roedd wedi ennill ei gap cyntaf i Gymru cyn ei gêm gyntaf dros Lerpwl. Er iddo ddatblygu yn un o sgorwyr goliau mwyaf cyson y clwb, aeth bron i flwyddyn heibio cyn iddo sgorio ei gô gyntaf i Lerpwl wedi iddo ymuno gyda nhw – a bu bron iddo adael y clwb oherwydd nad oedd lle iddo yn y tîm cyntaf. Ond erbyn i’w dymor llawn cyntaf gyda’r cochion ddod i ben, ef oedd sgoriwr mwyaf cyson y clwb gyda 30 gôl mewn 49 gêm. Gadawodd am Juventus yn nhymor 1987-1988 ond roedd ei gyfnod yno’n rhwystredig wrth iddo geisio addasu i steil yr Eidalwyr o chwarae. Wyth gôl yn unig wnaeth e’ sgorio mewn 29 gêm. Dychwelodd i dîm Lerpwl – oedd wedi cael cryn lwyddiant hebddo – a bu&rs