Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi ymuno ag elusen filfeddygol fwyaf y DU er mwyn cynnig archwiliadau iechyd am ddim i gŵn.
Bydd clinigau “cŵn iach” yn cael eu cynnal yng nghoedwigoedd Niwbwrch, Ynys Môn, Coed y Brenin, Dolgellau a Bwlch Nant yr Arian, Aberystwyth dros yr wythnosau nesaf.
Bydd nyrsys milfeddygol yn archwilio’r anifeiliaid anwes yn ddi-dâl ac yn edrych ar bwysau, llygaid, dannedd, clustiau, cyflwr blew a chyflwr anifeiliaid anwes yn gyffredinol.
Dywedodd Gareth Owen, llefarydd ar ran y Comisiwn Coedwigaeth, eu bod nhw’n cynnig y gwasanaeth mewn coedwigoedd am eu bod nhw’n “gyrchfan boblogaidd i bobl sy’n mynd â’u cŵn am dro”.
Gobaith y Comisiwn yw “ceisio denu mwy o bobl i’r goedwig” a hyrwyddo coetiroedd fel mannau i bobl fwynhau a cherdded eu cŵn heb orfod defnyddio tennyn.
Mae elusen filfeddygol y PDSA wedi bod yn rhedeg y cynllun am dros 8 mlynedd a’u prif nod, yn ôl llefarydd, yw “hyrwyddo iechyd anifeiliaid anwes” ynghyd a “pherchnogaeth gyfrifol”.
“Gwell targedu dinasoedd”
Dywedodd David Peacock, Warden Cŵn yn Ynys Môn ei fod yn “gefnogol o’r cynllun” ond dywedodd y byddai wedi bod yn well targedu’r dinasoedd.
“Fe fydd pobl yn cymryd mantais ohono ond efallai mai pobl sy’n gofalu am iechyd eu cŵn yn barod fydd y rheiny sy’n cerdded yn y goedwig,” meddai.
“Gwell efallai fyddai targedu trefi a dinasoedd, lle nad yw rhai yn cerdded eu cŵn bron ddim mewn gwirionedd.”