Mae ansawdd dŵr afonydd Cymru wedi gwella am y 19eg blwyddyn yn olynol, yn ôl yr Asiantaeth Amgylchedd.

Mae asesiad blynyddol yr Asiantaeth yn dangos bod naw afon o bob deg yng Nghymru wedi cyrraedd safon “da iawn” neu “dda”.

Un o’r afonydd sydd wedi profi’r trawsnewid mwyaf tros yr ugain mlynedd diwethaf yw Afon Taf ym Merthyr.

A hithau’n arfer bod ymysg yr afonydd mwyaf llygredig yng Nghymru, fe gafodd ei dewis yn ganolfan ar gyfer pencampwriaeth pysgota plu ryngwladol ym mis Gorffennaf eleni.

Yn ôl yr Asiantaeth, buddsoddiadau gan gwmnïau dŵr, newidiadau mewn arferion ffermio a gweithredu llymach i reoli llygredd sy’n gyfrifol am y newid.

Ond, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymrwymo i wneud hyd yn oed yn well yn y blynyddoedd nesaf ac wedi datgan eu bwriad i gyrraedd targedau Ewropeaidd drwy drawsnewid hyd at 4,750 milltir yn rhagor o afonydd yng Nghymru erbyn 2015.

“Eog a sewin”

“Mae ein hafonydd ni’n yn lanach nag ers dros ganrif, dyna pam yr ’yn ni’n gweld eog a sewin yn dychwelyd,” meddai Chris Mills o Asiantaeth yr Amgylchedd.