Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynnu na fydd neges y mudiad na’r ddibyniaeth ar wirfoddolwyr yn newid yn sgil y penderfyniad i gyflogi staff.
Mae’r Gymdeithas ar hyn o bryd yn hysbysebu am Swyddog Cyfathrebu Cenedlaethol newydd – gyda thâl o £20,000 y flwyddyn a’r nod o “dynnu aelodau i mewn i ymgyrchoedd”.
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y penderfyniad i gyflogi yn dod yn sgil rhodd ariannol o gannoedd o filoedd o bunnoedd yn ewyllys y datblygwr eiddo, Howell Vaughan Lewis, fu farw yn 2005.
“Roedd yn benderfyniad mawr sut i wario’r arian,” meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Ond, yn y diwedd fe benderfynon ni (Senedd Cymdeithas yr Iaith) gyflogi pobl i gefnogi ein haelodaeth a’n hymgyrchwyr ar lawr gwlad.”
Ar hyn o bryd mae’r Gymdeithas yn cyflogi pedwar aelod o staff – swyddog gweinyddu ymgyrchoedd, swyddog y gogledd, swyddog Dyfed a swyddog y De sydd hefyd yn lobio’r Cynulliad.
Yn ôl Cadeirydd y Gymdeithas, y swydd newydd “allweddol” hon fydd yr olaf y bydden nhw’n ei chreu yn sgil y rhodd ariannol.
Eu gobaith yw y gwnaiff y swyddog cenedlaethol “ddod â syniadau newydd” i’r Gymdeithas gan gynorthwyo a “sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gallu gwneud mwy”, meddai Menna Machreth.
Nid “proffesiynoli’r” gymdeithas yw’r nod drwy greu swyddi cyflogedig, meddai, ond “galluogi gwirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth”.
“Phobl a gwirfoddolwyr sy’n achub yr iaith, ac yn cyflawni pethau,” meddai.
“Cynulleidfaoedd newydd”
Yn sgil y swydd newydd, mae’r Gymdeithas yn gobeithio “cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gan ennyn eu cefnogaeth nhw” yn y dyfodol.
Mae hynny’n cynnwys datblygu eu gwefan ac ailsefydlu grŵp darlledu i edrych ar ddatblygiadau posib ym maes darlledu yng Nghymru.
Fis Ionawr diwethaf, penderfynodd y Gymdeithas ar neges newydd i gyfleu ethos gyfredol y gymdeithas a’r hyn y maen nhw’n ceisio’i wneud:
“Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.”