Mae llywodraeth dros dro Honduras wedi dweud eu bod yn fodlon cynnal trafodaethau gyda chyn arlywydd y wlad Manuel Zelaya, os yw’n derbyn cyfreithlondeb yr etholiad arlywyddol ym mis Tachwedd.

Daw hyn ar ôl i densiynau gynyddu y tu allan i lysgenhadaeth Brasil yn y brifddinas Tegucigalpa, lle mae Zelaya wedi cymryd lloches ar ôl sleifio yn ôl i mewn i’r wlad.

Roedd wedi cael ei ddisodli ar ôl ceisio newid cyfansoddiad y wlad er mwyn cael cyfnod pellach yn swydd yr Arlywydd.

Ddoe, fe fu lluoedd y llywodraeth dros dro yn gwrthdaro gyda miloedd o gefnogwyr Zelaya yn ystod y dydd ddoe – er gwaetha’ cyrffiw oedd i fod i’w cadw nhw yn eu tai.

Mae asiantaeth newyddion swyddogol Brasil – Agencia Brasil- yn adrodd bod eu llywodraeth wedi galw ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i gynnal cyfarfod brys.

Mae Brasil am sicrhau diogelwch y llysgenhadaeth a’r cyn arlywydd. Ar hyn o bryd mae 70 o deulu a ffrindiau Zelaya yn aros yn yr adeilad.