Mae cyfarwyddyd newydd yn debyg o ddweud na fydd pobol yn wynebu achos llys am helpu rhywun arall i farw – os ydyn nhw’n gwneud hynny am y rhesymau iawn.

Y cwestiynau allweddol yw: a fyddai’r cynorthwywyr yn elwa o’r farwolaeth neu beidio, ac a oedd y person sy’n dymuno marw yn ddigon cadarn i wneud y penderfyniad, heb ddylanwad gan eraill.

Mae disgwyl y cyfarwyddyd newydd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ar ôl i Debbie Purdy ennill achos yn Nhŷ’r Arglwyddi yn galw am eglurhad cliriach o Ddeddf Hunanladdiad 1961.

Mae hi’n dioddef o sglerosis ymledol ac roedd hi’n poeni y gallai ei gŵr gael ei erlyn pe bai’n ei helpu hi i wneud amdani ei hun mewn clinig yn y Swistir.

Mae’r canllawiau’n debyg o ddilyn sylwadau cynharach gan y Cyfarwyddwr ar ôl achos y chwaraewr rygbi, Daniel James, a gafodd gymorth ei rieni i farw.

Mae mwy a mwy o bwysau wedi bod am egluro’r gyfraith, wrth i ragor o bobol ddewis terfynu eu bywydau mewn clinigau tramor.