Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried syniadau newydd er mwyn lleihau nifer damweiniau ffordd.

Ymhlith argymhellion eraill, mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am gyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr yng nghanol trefi a lle mae pobol yn byw. Mae cynllun tebyg yn cael ei weithredu yn Hull eisoes, ac mae cyfradd yr anafiadau yno wedi disgyn 60%.

Ymhlith y syniadau eraill, mae:

• Llai o arwyddion i dynnu sylw gyrwyr – syniad sy’n cael ei weithredu yn Sweden.

• Mwy o ddefnydd o gamerâu cyflymder symudol ar briffyrdd Cymru.

Yn ôl un aelod o’r pwyllgor, Gareth Jones AC, byddai cyflwyno cyfyngiadau o’r fath yn ogystal â gwell addysg a gwell cydweithredu rhwng yr awdurdodau yn arwain at ffyrdd saffach yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y dylai Cymru osod ei thargedau ei hun ar gyfer diogelwch ar y ffordd, er mwyn gallu roi ystyriaeth benodol i amgylchiadau rhwydwaith ffyrdd unigryw’r wlad.