Mae capten pêl-droed Cymru, Craig Bellamy, wedi osgoi gwaharddiad am daro un o gefnogwr Man Utd yn ei wyneb.

Fe benderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr fod rhybudd yn ddigon i’r blaenwr ar ôl y gwrthdaro yn ystod gêm Manchester City yn Old Trafford dros y Sul.

Ond fe ddywedson nhw hefyd na ddylai chwaraewyr fynd i’r afael â chefnogwyr dan unrhyw amgylchiadau.

Dywedodd Martin Atkinson, dyfarnwr y gêm, wrth y Gymdeithas, na fyddai wedi dangos y garden goch i Bellamy pe bai wedi gweld y digwyddiad.

Mae’r cefnogwr yn wynebu achos llys am fynd ar y cae yn anghyfreithlon.

Rhybudd i gapten Man Utd

Mae capten Man Utd, Gary Neville, hefyd wedi cael rhybudd am ei ymddygiad wrth ddathlu’r gôl a enillodd y gêm i’w dîm yn ystod amser ychwanegol.

Fydd Man Utd ddim yn cael eu disgyblu ar ôl i eilydd Man City, Javier Garrido, gael ei daro ar ei ben gyda darn arian.