Mae stormydd llwch sydd wedi creu anhrefn yn Sydney yn Awstralia gydag awyrennau’n methu â glanio yn y maes awyr.
Ar hyn o bryd mae’r ddinas yn ne ddwyrain Awstralia wedi cael ei gorchuddio mewn llwch coch – y gwaetha’ ers cyn cof.
Mae hynny wedi amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda gwasanaeth fferi’r ddinas wedi cael ei ganslo hefyd.
Mae llawer o bobol yn cael trafferthion anadlu yn sgil y llwch a’r awdurdodau’n annog pobol gyda’r fogfa neu afiechydon yr ysgyfaint i aros yn eu cartrefi.
Daw’r stormydd yma yn sgil tywydd anghyffredin yn Awstralia’r wythnos yma gyda rhai ardaloedd yn profi gwres mawr ac eraill yn cael stormydd cenllysg.
Mae disgwyl i’r stormydd wanhau yn ystod y dydd.
Llun: Ty opera enwog Sydney ar goll yn y cwmwl coch (AP Photo)