Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw yn rhybuddio pleidleiswyr i beidio â “cherdded yn eu cwsg” tuag at lywodraeth Dorïaidd.
Yn ei araith allweddol ar ddiwrnod olaf cynhadledd y blaid yn Brighton, fe fydd Nick Clegg yn rhybuddio fod pleidleiswyr mewn peryg’ o gael eu swyno gan y Ceidwadwyr, gan roi David Cameron yn 10 Stryd Downing yn niffyg dewis arall.
Yn ôl dyfyniadau sydd wedi cael eu cyhoeddi ymlaen llaw, fe fydd yn galw ar bobol sydd wedi colli ffydd yn y blaid Lafur i droi at y Democratiaid Rhyddfrydol yn hytrach na’r Torïaid.
“Os oeddech chi’n cefnogi Llafur yn 1997 am eich bod eisiau tegwch, eisiau i bobol ifanc ffynnu, eisiau diwygio gwleidyddol, ac am eich bod chi eisiau amddiffyn yr amgylchedd … trowch at y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Felly peidiwch â throi cefn, peidiwch ag aros gartref, peidiwch â phleidleisio i’r Ceidwadwyr gan eich bod yn meddwl taw dyna’r unig ddewis.”
‘Adfer hygrededd’
Mae Nick Clegg yn ceisio ailgydio yn ei hygrededd fel arweinydd ar ôl cael ei feirniadu yn ystod y gynhadledd am gyflwyno polisïau dadleuol heb drafod yn iawn.
Mae nifer o aelodau seneddol mainc flaen y Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu ei alwad am doriadau “ffyrnig” ar wariant cyhoeddus, ac am osod prawf ariannol ar gyfer cymhorthdal plant.
Penderfyniad dadleuol arall oedd cyhoeddi na fyddai’r blaid yn galw bellach am gael gwared ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr ac, yng Nghymru, roedd yna anniddigrwydd gydag awgrym na fyddai’r blaid yn cefnogi’r academi hyfforddi milwrol yn Sain Tathan.
Y llefarydd ar y Trysorlys, Vince Cable, oedd yn gyfrifol am hynny – mae yntau wedi cael ei feirniadu hefyd am beidio â thrafod gydag aelodau blaengar eraill ynglŷn â chynlluniau ar gyfer “treth blastai” ar dai sydd werth mwy na miliwn o bunnoedd.