Roedd y milwr Prydeinig diweddara’ i farw yn Afghanistan wedi ennill medal y Groes Filwrol ddwy flynedd yn ôl.

Fe gafodd y Sarjiant Michael Lockett o Angus ei anrhydeddu wedi digwyddiad yn 2007 ar ôl iddo arwain ei blatŵn i achub milwyr eraill oedd wedi eu hanafu.

Yn ôl ei uwch-swyddog yng nghatrawd Mercia roedd yn un o’r milwyr a wnaeth fwya’ o argraff arno erioed.

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog wedi rhoi awgrym y bydd yn cynyddu nifer y milwyr Prydeinig yn Afghanistan.

Fe soniodd Gordon Brown am “gryfhau” y fyddin yno a’r disgwyl yw y gallai anfon 1,000 yn rhagor o filwyr allan i’r wlad.