Mae nifer y rhai fydd yn marw ac yn mynd i’r ysbyty oherwydd y ffliw moch yng Nghymru yn debyg o fod yn llai na’r amcangyfrifon cynta’, meddai’r Gweinidog Iechyd.
Fe ddywedodd Edwina Hart wrth aelodau’r Cynulliad eu bod bellach yn disgwyl traean yn llai o farwolaethau a hanner yn llai o bobol yn gorfod mynd i’r ysbyty.
Er hynny, mae disgwyl i’r afiechyd gyrraedd ei anterth ym mis Hydref a bryd hynny mae peryg o brinder gwelyau ar gyfer triniaeth frys.
Yn ôl y Gweinidog, mae disgwyl i un o bob tri o bobol Cymru ddal y ffliw ond mae’r amcangyfrifon yn awgrymu tua 2,000 yn llai o farwolaethau.
Roedd Edwina Hart yn pwysleisio mai amcangyfrifon ar gyfer cynllunio gwasanaethau oedd y rhain, nid proffwydoliaethau pendant, ac fe fyddan nhw’n cadw llygad ar y tueddiadau wrth i’r tymor ffliw nesáu.
Mae cynlluniau eisoes wedi eu cyhoeddi i ddyblu nifer y gwelyau brys, os bydd angen.