Fe gafodd 38 o bobol eu lladd mewn tân mewn canolfan drin cyffuriau yn Kazakhstan yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Mae’n debyg fod 40 o bobol eraill – gan gynnwys staff a chleifion – wedi cael eu hachub oddi yno pan gyneuodd y fflamau yn y ganolfan yn ninas Taldy-kurgan yn ne-ddwyrain y wlad.

Yn ôl adroddiadau, fe fydd ymchwiliad yn dechrau ar unwaith i achos y tân – mae’r wybodaeth yn dod gan Adran Sefyllfaoedd Argyfwng y Llywodraeth yno.

Mae tanau’n broblem fawr ar draws yr hen Undeb Sofietaidd gyda phroblemau arbennig mewn cartrefi gofal a sefydliadau o’r fath.

Llun: Rhan o ddinas Taldy-kurgan