Mae pobol Cymru yn gwario llai ar-lein ar edrych ac arogli’n dda nag unrhyw ran arall o Ynys Prydain, yn ôl arolwg newydd.

Dim ond £64 y flwyddyn y mae’r Cymry yn ei wario ar laddwyr chwys, persawr a thaclau ymolchi o wefannau archfarchnadoedd, yn ôl mySupermarket.co.uk.

Mae pobol yr Alban yn gwario £76.24 ar sicrhau nad ydyn nhw’n drewi a gwahanol rannau o Loegr rywle rhwng y ddau begwn.

Pobol Llundain sy’n gwario’r fwyaf ar golur, gan wario 20% yn fwy ar eu hwynebau na phobol Cymru.

Edrychodd yr arolwg ar 200,000 o fasgedi siopa ar-lein rhwng mis Medi’r llynedd a dechrau’r mis yma.

Dyma’r rhestr lawn:

• Yr Alban – £76.24

• De Lloegr – £75.75

• Llundain – £73.29

• Canolbarth Lloegr – £72.86

• Dwyrain Lloegr- £72.39

• De Orllewin Lloegr – £72.11

• Gogledd Orllewin Lloegr – £71.64

• Swydd Efrog – £70.53

• Gogledd Ddwyrain Lloegr – £66.96

• Cymru – £64.50

Dyw’r adroddiad ddim yn awgrymu efallai bod y Cymry’n lanach ac yn bertach yn y lle cynta’.

(Llun: Henri Toulouse-Lautrec)