Mae cyn-arweinydd ar y blaid Dorïaidd wedi awgrymu bod cysylltiad rhwng y penderfyniad i ryddhau’r lleidr trên enwog, Ronnie Biggs, a bomiwr Lockerbie.
Mae Michael Howard, a gafodd ei fagu yn ardal Llanelli, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Jack Straw, gan awgrymu ei fod wedi newid ei feddwl tros ryddhau Ronnie Biggs am ei fod yn gwybod bod bomiwr Lockerbie ar fin cael ei ryddhau hefyd.
Cafodd Ronnie Biggs ei ryddhau am resymau trugarog ychydig wythnosau cyn i Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi gael ei ryddhau am resymau tebyg gan Lywodraeth yr Alban.
Yn ôl Michael Howard, roedd y gyfres o ddigwyddiadau yn ei gwneud hi’n “anodd iawn” osgoi’r casgliad bod “gwybodaeth ynglŷn â phenderfyniad tebygol Llywodraeth yr Alban yn achos Megrahi” wedi effeithio ar y penderfyniad ynglŷn â Biggs.
“Dyw’r rheswm tu ôl i’r newid meddwl erioed wedi eu hesbonio’n foddhaol,” ysgrifennodd Michael Howard.
“Hurt” meddai Straw
Dywedodd llefarydd ar ran Jack Straw fod yr honiadau’n “hurt” ac nad oedd “unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng y ddau achos”.
“Penderfyniad Llywodraeth yr Alban oedd rhyddhau Megrahi. Doedd Jack Straw ddim yn gwybod ei fod wedi ei ryddhau tan iddo weld y newyddion ar wefan y BBC.”