Mae Canghellor yr Almaen wedi dweud ei bod yn “edifarhau’n ddwys”am farwolaethau pobol ddiniwed mewn ymosodiad awyr yn Afghanistan.

Ond, mae Angela Medrkel yn parhau i fynnu bod presenoldeb yr Almaen yn Afghanistan yn angenrheidiol ac mae wedi dweud na fydd yn rhagfarnu beth ddigwyddodd.

Roedd yr ymosodiad ar ddwy dancer olew a oedd wedi’u cipio gan ryfelwyr y Taliban ond mae NATO bellach wedi cydnabod fod sifiliaid yno hefyd.

Fe gadarnhaodd Stanley McChrystal, pennaeth y byddinoedd rhyngwladol yn Afghanistan, fod pobol gyffredin wedi marw yn yr ymosodiad a ddigwyddodd ar ôl cais gan un o brif filwyr yr Almaen.

Ac yntau wedi ceisio creu polisi sy’n ennill cydymdeimlad pobol leol, mae wedi ymddangos ar deledu Afghanistan yn addo ymchwiliad llawn i mewn i’r achos. “Does dim yn bwysicach na diogelwch pobl Afghanistan” meddai.

“Pob un – un yn ormod”

Fe ddywedodd Angela Merkel wrth Senedd yr Almaen fod “pob un person diniwed sy’n marw yn Afghanistan yn un yn ormod”.

Aeth hithau yn ei blaen i addo ymchwiliad llawn i’r achos gan ychwanegu “na fyddai’n rhoi ‘gwyngalch’ ar unrhyw beth”.

Llun: Trwydded CCA2.0