Ar ôl pedwar mis o drafodaethau, mae Katie Price a Peter Andre yn ysgaru yn Uchel Lys Llundain heddiw.
Mae’r gyn-fodel a’r canwr yn ceisio am ddyfarniad i ddileu’r briodas ac yn beio’i gilydd am y chwalfa ym mis Mai eleni.
Mae’n debyg bod y ddau wedi cytuno ar delerau ariannol eisoes yn ogystal â’r drefn i gyd-warchod eu plant, Junior sy’n bedair a Princess Tiaamii sy’n ddwy.
Fe briododd y ddau yn ôl yn 2005 ar ôl cyfarfod flwyddyn yn gynharach ar y rhaglen deledu realaeth boblogaidd ‘I’m a Celebrity . . .Get me out of here.’
Ers hynny, mae’r ddau wedi bod yn sêr rhaglen cyfres realiti am eu bywydau eu hunain ar ITV 2.
Llun: Dyddiau (ychydig) hapusach – Peter Andre a Katie Price ym Marathon Llundain eleni.