Mae un o Arglwyddi’r Gyfraith wedi codi amheuaeth ynglŷn â’r modd y cafodd prif lys apêl newydd gwledydd Prydain – y Goruchaf Lys – ei sefydlu.

Yn ôl yr Arglwydd Neuberger, mae hi’n ymddangos fod y penderfyniad i greu’r llys wedi cael ei wneud “dros wydriad o wisgi” gan y cyn Prif Weinidog, Tony Blair.

Rhybuddiodd yr Arglwydd Neuberger, sydd yn gyn farnwr, y gall newidiadau “gwamal” fel hyn i’r cyfansoddiad, olygu “canlyniadau peryglus ac anfwriadol”.

Y Goruchaf Lys fydd y prif lys apêl yng ngwledydd Prydain o fis nesaf ymlaen, yn cymryd lle pwyllgor Arglwyddi’r Gyfraith yn Nhŷ’r Arglwyddi.

‘Perygl enbyd’

Mae’r Arglwydd Neuberger yn gyn Arglwydd y Gyfraith, ac mae wedi gwrthod symud i’r Goruchaf Lys.

“Mae perygl enbyd yn sgil chwarae o gwmpas gyda’r cyfansoddiad, gan nad ydych chi ddim yn gwybod beth fydd canlyniadau unrhyw newid,” meddai.

Er hyn, mae’r Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Falconer, a oruchwyliodd sefydlu’r llys, wedi dweud ei fod yn disgwyl i farnwyr fod yn fwy beiddgar wrth iddyn nhw amddiffyn rhyddid unigolion yn y sefydliad newydd, na’ phan oedden nhw’n rhan o Dŷ’r Cyffredin.

Ac mae’r Farwnes Hale, un o farnwyr y Goruchaf Lys, wedi dweud ei bod hi ddim yn credu y dylai’r barnwyr fod yn rhan o Dŷ’r Cyffredin, a bod yn well ganddi hi fod y sefydliad yn cael ei adnabod i fod yn lys ar wahân.