Mae pobol Samoa wedi tyrru i eglwysi’r ynys er mwyn gweddïo y bydd popeth yn mynd yn iawn pan mae’r wlad yn newid o yrru ar ochor dde’r ffordd i’r chwith heddiw.

Samoa fydd y wlad gyntaf mewn degawdau i benderfynu newid ochor y ffordd yn swyddogol. Fe wnaeth Gwlad yr Ia newid cyfeiriad y traffig yn yr 1960au, a Nigeria, Ghana ac Yemen yn y 70au.

Mae Samoa’n gyrru ar y dde oherwydd cyfnod byr o reolaeth gan yr Almaenwyr ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

Mae Eglwys Samoa wedi bendithio’r wlad ddydd Sul yn y gobaith y bydd y newid yn un llyfn, heb ormod o ddamweiniau.

Gobaith y llywodraeth yw y bydd newid i’r un drefn â Seland Newydd ac Awstralia yn annog rhai o’r 170,000 o bobol sydd wedi symud i’r gwledydd hynny i yrru eu ceir yn ôl i ymweld â’u perthnasau.

Mae gwrthwynebwyr i’r syniad, y Bobol yn Erbyn Newid Ochrau (Pass) wedi cyhuddo’r llywodraeth o wthio’r newid ymlaen heb baratoi gyrwyr.