Mae peiriant chwilio’r rhyngrwyd newydd wedi ei lansio sy’n caniatáu i Fwslemiaid syrffio’r we heb boeni am ddod ar draws unrhyw beth anweddus.

Mae I’mHalal yn gweithio fel peiriannau chwilio eraill fel Bing a Google tan fod y chwiliwr yn cynnwys unrhyw eiriau fyddai’n arwain at wefannau sydd wedi eu gwahardd dan gyfraith Islamaidd.

Felly does dim modd chwilio am bethau fel ‘pig’ neu ‘pork’ – creadur aflan yng ngolwg Mwslemiaid – na chwaith ‘gay’, ‘lesbian’, ‘satan’, ‘beer’ a ‘drugs’.

Gobaith y cwmni yw y bydd y 100 miliwn o Fwslemiaid yn y byd yn defnyddio ImHalal yn hytrach na pheiriannau chwilio eraill.

Mae ar gael mewn 15 iaith, gan gynnwys Arabeg, Chineaidd, Farsi, Tyrceg, a Saesneg. Hyd yn hyn does dim cyfyngiad ar eiriau Cymraeg.

“Mi’r ydan ni’n wefan gymdeithasol – mae gyda ni fotwm allbwn a bob dau funud mae rhywun yn cysylltu,” meddai’r crëwr, Reza Sardeha, wrth bapur newydd y Times.