Mae cyn-filwr o’r Unol Daleithiau wedi cael pum dedfryd o garchar am oes am dreisio a llofruddio merch ifanc o Irac yn ogystal â llofruddio tri aelod o’i theulu.
Disgrifiodd y barnwr weithredoedd Steven Green, 24 oed, fel rhai “arswydus”.
Ychwanegodd y byddai unrhyw ddedfryd lai wedi bod yn “annigonol.”
Roedd Steven Green eisoes wedi ei gael yn euog o dreisio Abeer Qassim al-Janabi, ac o gynllwyno a llofruddio aelodau eraill o’i theulu.
Fe saethodd Green fam, tad a chwaer y ferch ifanc. Yna, treisiodd y ferch (ef oedd y trydydd miliwr i’w threisio) cyn mynd ymlaen i’w saethu yn ei hwyneb.
Fe losgwyd ei chorff yng nghartref gwledig y teulu y tu allan i Mahmoudiya yn Irac, oddeutu 20 milltir i’r de o Baghdad ar Fawrth 12, 2006.
Methodd y panel dedfrydu gytuno ar roi’r gosb eithaf iddo, ond cafodd bum dedfryd am oes ac ni fydd yn cael ei ryddhau o garchar.
“Anfad”
Mae’r cyn-filwr wedi cyfaddef bod ei weithredoedd yn “anfad” ond honnodd mai dilyn gorchmynion gan filwyr eraill oedd ar y pryd.
Roedd Green yn un o bum milwr wynebodd gyhuddiadau. Fe gafodd tri arall eu carcharu am gyfanswm o 110 o flynyddoedd, ond bydd modd iddyn nhw wneud cais am barôl mewn saith mlynedd.
Fe gafodd milwr arall – oedd â llai o ran yn yr ymosodiadau – ei ryddhau wedi treulio 27 mis yn y carchar.