Fe wnaeth tîm dan 21 oed Cymru sicrhau buddugoliaeth dda wrth guro’r Eidalwyr o 2-1 yn Abertawe.

Y seren i Gymru oedd chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey, a sgoriodd gôl arbennig i ennill y gêm yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop.

Fe aeth y Cymry ar y blaen wedi naw munud yn unig gydag amddiffynnwr Bristol City, Christian Ribeiro, yn rhwydo wedi cic gornel gan Ramsey.

O fewn chwarter awr roedd yr Eidalwyr yn gyfartal gyda Paloschi o glwb Parma yn penio i’r rhwyd.


Dawn

Ond wnaeth Cymru ddim diflasu, ac yn yr ail hanner fe wnaeth Sam Vokes o Wolves fynd yn agos iawn at ail sefydlu mantais y cochion.

Ac wedi 68 munud fe ddaeth uchafbwynt y gêm  – Ramsey yn dangos ei ddawn gydag ergyd gref i gornel ucha’r rhwyd.

Bu bron i Gymru fynd ymhellach ar y blaen wedi 82 munud wrth i beniad Vokes daro’r postyn.

Ond bydd tîm Brian Flynn yn fodlon iawn gyda’r fuddugoliaeth yma yn Stadiwm y Liberty.

Maen nhw ar frig y grŵp, ac mae’r fuddugoliaeth yn hwb pellach i’r ymgais i sicrhau lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop.