Mae’r tân enfawr sydd wedi effeithio ar gylch eang i’r gogledd o Los Angeles yn parhau i losgi heddiw wrth iddo ledu’n ddyfnach i fforestydd trwchus yr ardal.

Hyd yma, mae’r tân wedi llosgi 241 milltir sgwâr neu 154,655 erw o dir yn Fforest Genedlaethol Angeles ac wedi dinistrio 76 o gartrefi a llawer o adeiladau.

Mae ymchwilwyr yn parhau â’u hymdrechion i ganfod y sawl sy’n gyfrifol am gynnau’r tân sydd eisoes wedi hawlio bywydau dau ddiffoddwr tân.

Cafodd y ddau eu lladd ddydd Sul wrth i’r cerbyd roedden nhw’n ei ddefnyddio ddymchwel mewn coedwig uwchben Los Angeles.

Roedden nhw eisoes wedi cynorthwyo i arbed 60 bywyd yn y tân.

Mae llywodraethwr California, yr actor, Arnold Schwarzenegger, wedi cynnig $100,000 (£61,000) am unrhyw wybodaeth a allai arwain at arestio’r sawl sy’n gyfrifol am ddechrau’r tân.